Cynulliadau Dydd Sul
Cyfarfodydd Wyneb-yn-wyneb
Yn ôl rheoliadau Covid Llywodraeth Cymru, rydyn ni bellach yn cael ailgydio mewn cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb eto. Mae’n gyffrous inni feddwl y byddwn ni’n gallu dod at ein gilydd fel cymuned unwaith eto, ac fe allwn ni eich sicrhau fod diogelwch y bobl sy’n mynychu, ynghyd â’n timau ni, ar flaen ein blaenoriaethau.
Oherwydd hyn, gofynnwn ichi gofrestru ar gyfer ein cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb ymlaen llaw. Pwyswch ar y ddolen-gyswllt isod i gofrestru ar gyfer y Cyfarfod Sul nesaf ac i weld y mesurau sydd ar waith i gadw pawb yn saff.
Cyfarfodydd Ar-lein
Rydyn ni’n cynnal gwasanaeth ar-lein ar Youtube pob dydd Sul. Mae’r llif yn dechrau am 10.25yb, yn barod i’r gwasanaeth ddechrau am 10.30yb. Fe fasen ni wrth ein boddau petae chi’n ymuno â ni!
*Rydyn ni’n deall y bydd rhai’n teimlo’n anghyfforddus yn dychwelyd at gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb, felly rydyn ni’n dal i gynnig gwasanaethau ar-lein pob wythnos. Am fwy o wybodaeth, gweler isod.
Teithiau Gweddi
Ar ail Sul pob mis, fe fyddwn ni’n mynd ar deithiau gweddi o amgylch yr ynys. Fe fyddwn yn cyfarfod mewn lleoliadau ledled yr ynys i weddïo dros yr ardal honno, a gweddill y wlad.
Rydyn ni’n cynnal y teithiau gweddi hyn oherwydd ein bod yn caru Môn ac am weddïo bendith Duw ar yr ynys. Pwyswch ar y ddolen-gyswllt isod i gofrestru ar gyfer y tro nesaf!