
Dwi’n Newydd
Yn gyntaf oll – Croeso!
Rydyn ni wrth ein bodd eich bod wedi dod o hyd inni a gobeithio y cawn gysylltu ymhellach rhyw ddydd.
Sut bynnag y cawsoch chi hyd i Gapel Goleudy, Ynys Môn – a beth bynnag y cewch chi allan o’r ymweliad – rydyn ni am ichi wybod eich bod yn werthfawr, eich bod yn cael eich caru a bod gobaith i’w gael yn y byd hwn, hyd yn oed yn ystod yr amserau gwallgof, ansicr presennol!
Os ydych chi’n dal i ddarllen... gwych! Dewch inni ddangos ichi rhai o’r ffyrdd gorau i archwilio mwy am Gapel Goleudy a sut mae modd ichi ddechrau profi dyfroedd ffydd a’r boi Iesu ‘ma rydyn ni wrth ein boddau’n siarad amdano:
Cynulliadau Dydd Sul
Ar hyn o bryd rydym yn ymgynnull bob wythnos am 10.30yb ar-lein trwy ein Sianel YouTube ar gyfer Capel ar-lein. Mae'n debyg mai hwn yw un o'r llefydd orau i cael blas ar pa fath o chymuned ydym a beth rydym yn eu gredu.
Alpha Course
Cwrs 7 wythnos yw hwn sy'n creu gofod, ar-lein neu'n bersonol, lle gall pobl ddod â'u ffrindiau am sgwrs am ffydd, bywyd a Duw. Rydyn ni'n ceisio rhedeg Alpha ddwywaith y flwyddyn a byddem ni bob amser yn hapus i ddechrau un newydd os oes gennych chi ddiddordeb - cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.