Tîm Arwain

 
20200901_131748.jpg

Alan Radbourne

Dychwelodd Alan i Fôn yn 2017 gyda’i wraig, Rachel, eu mab, Caleb, i gychwyn Capel Goleudy. Fe gawson nhw’u danfon gan Eglwys Open Heaven yn Loughborough i blannu cymuned newydd yma ym mhrydferthwch Ynys Môn. Ym mis Rhagfyr 2017, dechreuodd Capel Goleudy gyfarfod o amgylch bwrdd y gegin ar aelwyd Alan a Rachel.

Rachel Radbourne

Mae Rachel wastad wedi teimlo galwad i ogledd Cymru, gan mai yma y cafodd ei magu. Mae’n caru’r ardal ac, wedi astudio yn Loughborough, cyfarfod ag Alan a geni eu plentyn cyntaf, symudon nhw i Fôn i blannu eglwys ac adeiladu cymuned yma. Bellach, mae gan Rach ac Al ail fab, Rhys ac, fel teulu, maen nhw’n mwynhau gwneud pitsas a thoes cwcis pob gyda’r nos Sul.

IMG-20210129-WA0002.jpg

Karen Sadler

Karen ydy arweinydd bugeiliol Capel Goleudy. Mae hi’n llawn angerdd wedi blynyddoedd o gefnogi ac arwain Eglwys gynt. Fel arweinydd bugeiliol, mae Karen yn gweithio un diwrnod yr wythnos yn cefnogi aelodau’r gymuned a thu hwnt gyda’i doethineb a’i gofal. Mae Karen hefyd yn gweithio’n rhan-amser fel athrawes mewn ysgolion cynradd.

john S.jpg

John Sadler

John yw gŵr Karen ac mae’n rhan allweddol o dîm arweinyddiaeth Lighthouse Church. Ynghyd â Karen, mae ganddo ddoethineb ac angerdd dros Ynys Môn a Gogledd Cymru. Mae John yn gweithio'n rhan-amser fel athro ysgol uwchradd. Mae gan John a Karen bedwar o blant, dau o wyrion ac maent yn byw ar dyddyn yma yn Ynys Môn, yn gofalu am ddefaid, moch, ieir, hwyaid a gwenyn.

P1010076.JPG

Dylan Rees

Mae Dylan yn gaffaeliad mawr ar ein tîm arweinyddiaeth. Mae ei galon yn fawr dros Fôn a’i chymunedau, yn enwedig ymysg y Cymry Cymraeg. Mae ganddo rôl anhepgor yn sicrhau fod Capel Goleudy’n cynnig darpariaeth ddwyieithog i’w gwneud yn agored i gymaint o drigolion â phosib.

Staff Team

rachel.jpg

Rachel Radbourne

Rachel ydy arweinydd tîm Staff Goleudy. Hi sy’n goruchwylio gwaith cynnal eglwys Goleudy o ddydd i ddydd.

529FE58F-2886-4C25-A6DC-37E66596226E.jpeg

Katie Love

Katie ydy’r weinyddwraig a threfnydd digwyddiadau. Symudodd yma’n ddiweddar o Gaeredin. Hi sy’n helpu gyda’r holl waith cefndir ac yn sicrhau fod popeth yn ei le ar gyfer ein cyfarfodydd Sul. Mae ganddi galon dros ddigwyddiadau a gwyliau Cristnogol.

tempFileForShare_20210505-145544.jpg

Kirsty Willams

Kirsty ydy’n Trefnydd Estyn Allan Cymunedol. HI sy’n arwain ein prosiectau Cinio’n Barod ac unrhyw brosiectau estyn allan dan ein gofal. Mae ganddi gymaint o angerdd dros Cinio’n Barod, teuluoedd yr ynys, a chanfod ffyrdd creadigol i helpu adeiladu cymuned ar Ynys Môn.

IMG-20210129-WA0002.jpg

Karen Sadler

Karen ydy arweinydd bugeiliol cymuned Goleudy. Hi sy’n helpu cefnogi aelodau’r gymuned a thu hwnt.